Wici Pobol y Cwm
Advertisement

Cynghorydd lleol. Cyn-ŵr Hazel a thad Lauren a Melanie Griffiths.

Fel y swyddog fu'n gyfrifol am gau Brynawelon ym Medi 1988 y daeth Ieuan Griffiths i'r amlwg yn gyntaf. Bryd hynny, roedd ef a Stan Bevan law yn llaw, ond pan gafodd Stan ei ddal yn ceisio llwgrwobryo un o swyddogion y Swyddfa Gymreig, Griffiths oedd y cyntaf i roi'r gyllell yn ei gefn.

Ond llwyddodd Stan, gyda help Llew Matthews, i daflu cyllell lawer mwy creulon i gyfeiriad Griffiths a charcharwyd ef am gyfnod oherwydd ei fod wedi bod yn twyllo gyda chytundebau'r Cyngor.

Dychwelyd i Gwmderi wnaeth Griffiths yn y diwedd, fodd bynnag, ac yn haf 1995 llwyddodd i orfodi Doreen Bevan i werthu Llys Helyg iddo am bris llawer iawn rhatach na'i werth.

Llwyddodd Doreen i ddial drwy werthu cae yn ymyl Llys Helyg i Eddie Lewis i'w ddatblygu'n stad o dai, ond doedd dim pall ar ddial Griffiths.

Prynodd hen fusnes glo R.J.Parry a gorfododd Pwll Bach i fynd i'r wal drwy orfodi Reg Harries i lwgrwobrwyo un o'i gyd-gynghorwyr er mwyn ennill cytundeb. Buddugoliaeth fawr Griffiths oedd prynu Pwll Bach oddi wrth Doreen a Reg.

Dyslecsia Melanie[]

Gyda Melanie Griffiths erbyn hyn yn ddisgybl yn Ysgol y Mynach daeth i’r amlwg ei bod yn cael trafferth gyda’i gwaith ysgol. Yn anfodlon derbyn fod unrhyw fai ar ei ferch penderfynodd Ieuan fod bai ar yr ysgol, yn enwedig ei athro Hywel Llywelyn.

Wrth iddo ddod i nabod y ferch yn well, sylwodd Hywel fod gwaith llafar Melanie yn wych ond bod safon ei gwaith ysgrifenedig yn wael iawn - rhywbeth a achosodd Hywel i gredu bod Melanie yn ddyslecsig. Cynigodd Hywel a Glyn Hughes y prifathro y dylai'r ysgol asesu Melanie i sicrhau ei bod yn cael yr help oedd eisiau arni yn y dosbarthiadau ond tynnodd Ieuan yn groes iawn i’w awgrymiadau ac ni roddodd ei ganiatâd i fynd ymlaen â’r profion.

Yn synhwyro fod rhywbeth o’i le, cysylltodd Hazel, gwraig Ieuan, â Hywel yn uniongyrchol ac wedi cael y manylion ganddo, penderfynodd Hazel fynd dros ben Ieuan a rhoi’r caniatâd angenrheidiol i’r ysgol barhau â’u hasesiad.

===
Affêr gyda Lisa === Ar yr un adeg, dychwelodd Lisa Morgan i’r ardal, erbyn hyn yn gweithio fel rep yn gwerthu cyfrifiaduron. Daeth i werthu nwyddau i Ieuan Griffiths ar gyfer ei fusnesau a manteisiodd ar ei ddiddordeb i’w berswadio i fuddsoddi ynddi a sefydlu busnes newydd gyda’i gilydd. Er bod Ieuan yn llawn brwdfrydedd am y cynllwyn, yn gyntaf roedd yn rhaid cael perswâd ar ei wraig.

Wedi clywed am ei hanes, roedd Hazel yn ddrwgdybus o fwriad Lisa ond aeth y bartneriaeth yn ei flaen beth bynnag. O fewn dim roedd Lisa yn ei gwneud hi'n glir i Ieuan ei bod yn agored i ddatblygu’r berthynas tu hwnt i’r bartneriaeth busnes ac ar drip i Lundain fe gysgodd y ddau â’i gilydd am y tro cyntaf.

Gyda’r busnes yn llwyddiant a’r berthynas yn poethi, gobeithiai Lisa gael car crand fel anrheg gan Ieuan ond cafodd ei siomi. Yn benderfynol o gael ei ffordd ei hun dechreuodd Lisa roi pwysau ar Ieuan a bygwth dweud y cyfan wrth Hazel os na gai ei char. Cododd ei gobeithion pan glywodd fod car wedi ei archebu ond roedd hi’n gandryll pan ddaeth i wybod mai i Hazel oedd y car.

Yn benderfynol o ddial ar Ieuan, daeth Lisa draw i Lys Helyg a chyhoeddi’r gwir i Hazel am yr affêr a dweud fod Ieuan wedi rhoi pwysau arni i gysgu ag ef. Cafodd sioc pan ddatgelodd Hazel ei fod yn gwybod popeth am y berthynas a rhoi’r sac iddi.


Gwnaeth Hazel ddial ar Ieuan drwy gael perthynas â Hywel Llywelyn. Penderfynodd y cwpl faddau i'w gilydd er mwyn lles y plant.

Yn 2001 prynodd Ieuan sawl tŷ mewn ocsiwn o eiddo Billy Unsworth gan gynnwys Rhif 7, Stryd Fawr Cwmderi. Ei fwriad oedd i gael gwared ar y tenantiaid Darren a Lowri er mwyn ei osod i'w ferch Melanie a'i theulu. Llwyddodd Darren a Lowri i ennill y frwydr ond colli bu eu hanes yn y pendraw pan ddaeth eu cytundeb i ben a gosodwyd y tŷ i griw o fyfyrwyr.

Yn ystod llifogydd Cwmderi yn 2001 daeth Ieuan i gredu fod Hazel wedi marw ar ôl damwain ar fferi yr oedd hi i fod yn hwylio arni. Mewn gwironedd nid oedd hi ar y gwch yn y lle gyntaf, yn hytrach roedd hi'n cael perthynas gyda Barry Richards ac roedden nhw gyda'i gilydd yn ystod y ddamwain. Penderfynodd Hazel ddod â'i phriodas i ben a cychwynodd y ddau y broses o ysgaru. Cafodd Hazel y tŷ a'r busnes carpedi, a symudodd Ieuan allan.

Cafodd yr ysgariad effaith enfawr ar Lauren a oedd â pherthynas glos â'i thad. Bu'n beio ei mam am ysgariad ei rhieni ac fe gafodd lawer o fwynhad o weld ei thad yn dyrnu Barry.

Wedi gwahanu, cychwynodd Ieuan foddi ei ofidion yn nghlwb dawnsio lap Hywel a Cassie, Lapswchan. Yn ymwelydd cyson, cychwynodd gyfeillgarwch gyda Babs Lloyd a oedd yn gweithio tu ôl i'r bar.

Ar ôl derbyn cyhuddiadau fod y clwb yn orchudd i adael y dawnswyr buteinio, cynhaliodd D.S Watkins ymgyrch heddlu i geisio dal y merched yn troseddu. Cafodd Ieuan a Babs eu arestio ar gam pan roddodd hithau lifft adre i Ieuan un noson.

Fe ddychwelodd ar 8 Chwefror 2019 er mwyn trafod cynlluniau Hywel gyda Phwll Bach.

Advertisement