Wici Pobol y Cwm
Advertisement

Symudodd Babs i Gwmderi yn 2001 gyda'i chyd-fyfyrwyr Dyl a Moggs i rhentu Rhif 7, Stryd Fawr gan Ieuan Griffiths.

Roedd hi'n astudio'r Gymraeg yn Ngholeg y Drindod Caerfyrddin.

Roedd cryn stwr pan symudodd y myfyrwyr i mewn, gan eu bod yn creu sŵn gyda'u partion, ac yn chwarae cerddoriaeth uchel tan yr oriau mân, yn digio rhai o'u cymdogion fel Reg Harries a Denzil Rees.

Llwyddodd Babs hefyd i roi ei throed ynddi gyda Lowri Jenkins drwy ddatgelu yn ddiniwed ei bod hi wedi gweld Sheryl a Darren Howarth yn cusanu. Roedd Babs wedi cangymeryd Sheryl a Darren am y cwpwl, yn hytrach na Darren a Lowri.

Meddalodd agwedd Reg a Babs at eu gilydd pan gafodd hi waith yn y Caffi. Er hyn, byr iawn oedd ei chyfnod yn gweithio yn y caffi, gan iddi gael cynnig gwaith a oedd yn talu'n well wedyn y tu ôl i'r bar yng nghlwb dawnsio lap Hywel Llywelyn, Labswchan.

Dychwelodd i'r Cwm ym Mehefin 2003, fel swyddog newydd Menter Iaith Tywi, yn y swyddfeydd oedd yn cael eu hadnewyddu yn hen adeilad Gorsaf Heddlu Cwmderi.


Categori:Cyn Gymeriadau Categori:Preswylwyr Rhif 7, Stryd Fawr Categori:Cymeriadau Categori:Dyfodiadau 2001 Categori:Gweithwyr Caffi'r Cwm Categori:Gweithwyr Labswchan Categori:Ymadawiadau 2003

Advertisement